Croeso
Croeso i Ysgol Gynradd Cegidfa
Yn Ysgol Gynradd Cegidfa, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cynnig addysg eang, gytbwys a llawn mewn awyrgylch gynnes, gofalus a chydweithio.
Rydym yn gwerthfawrogi pob disgybl am eu rhinweddau a’u doniau unigol a’n prif amcan yw eu helpu i wireddu eu potensial. Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith cyffrous a phwrpasol sy’n annog ein disgyblion i ymdrechu am safonau uchel.
Ein Datganiad Cenhadaeth yw ‘Dysgu, Cyflawni a Thyfu Gyda’n Gilydd’ ac wrth wraidd hyn i gyd mae’r canlynol:
- Cymuned Mawr ei gofal
- Mwynhad
- Mynd am y nod
- ysbrydoli
- datblygu eich hun ac eraill
- cyfeillgarwch
- gwerthfawrogi pawb a phopeth
Mae’r ysgol yn hybu perthynas waith agos â rhieni er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn mwynhau cyfnod llwyddiannus a llewyrchus yn yr ysgol.
Gobeithio i chi fwynhau ein gwefan. Cofiwch edrych ar dudalennau’r dosbarthiadau i weld yr amrywiaeth o weithgareddau. Mae ein drysau bob amser ar agor os hoffech alw heibio. Cysylltwch trwy’r botwm ‘cysylltu â ni’ ar y dudalen hafan neu ffoniwch 01938 553979.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi.
Yn gywir
Huw Jones
Pennaeth